Offerynnau Statudol sydd ag Adroddiadau Clir
18 Mawrth 2024
SL(6)464 – Rheoliadau Adeiladu (Gweithgareddau a Swyddogaethau Cyfyngedig) (Cymru) 2024
Gweithdrefn: Gwneud Negyddol
Mae’r Rheoliadau hyn yn rhan o gyfres o ddeddfwriaeth newydd sydd â’r nod o wella safonau a diogelwch ar draws y diwydiant adeiladu. Mae'r Rheoliadau yn ceisio sicrhau bod awdurdodau rheolaeth adeiladu a chymeradwywyr cofrestredig rheolaeth adeiladu yn cael cyngor gan bobl sy’n weithwyr proffesiynol cofrestredig cyn i’r swyddogaethau penodol gael eu cyflawni. Bydd angen i weithwyr proffesiynol ddangos cymhwysedd perthnasol drwy system gofrestru sy’n cael ei rheoleiddio gan Weinidogion Cymru, cyn gwneud rhai penderfyniadau rheolaeth adeiladu.
Mae adran 44 o Ddeddf Diogelwch Adeiladau 2022 yn mewnosod adrannau 46A (Awdurdodau rheolaeth adeiladu: gweithgareddau a swyddogaethau cyfyngedig) a 54B (Cymeradwywyr cofrestredig rheolaeth adeiladu: gweithgareddau a swyddogaethau cyfyngedig) yn Neddf 1994. Mae adran 46A yn darparu bod yn rhaid i awdurdod rheolaeth adeiladu gyflawni gweithgaredd cyfyngedig, neu arfer swyddogaeth gyfyngedig, drwy, neu gyda chyngor, arolygydd cofrestredig adeiladu. Mae adran 54B yn gwneud darpariaeth debyg mewn perthynas â chymeradwywyr cofrestredig rheolaeth adeiladu.
Mae'r Rheoliadau hyn yn rhagnodi gweithgareddau a swyddogaethau awdurdodau rheolaeth adeiladu a chymeradwywyr cofrestredig rheolaeth adeiladu, a gyfyngir o dan adrannau 46A a 54B o Ddeddf Adeiladu 1984 ("Deddf 1994").
Mae rheoliad 3 yn rhagnodi gweithgareddau a swyddogaethau cyfyngedig gweithgaredd rheolaeth adeiladu at ddibenion adran 46A o Ddeddf 1994.
Mae rheoliad 4 yn rhagnodi gweithgareddau a swyddogaethau cyfyngedig gweithgaredd rheolaeth adeiladu at ddibenion adran 54B o Ddeddf 1994.
Rhiant-Ddeddf: Deddf Adeiladu 1984
Fe’u gwnaed ar: 28 Chwefror 2024
Fe’u gosodwyd ar: 01 Mawrth 2024
Yn dod i rym ar: 06 Ebrill 2024
Offerynnau Statudol sydd ag Adroddiadau Clir
18 Mawrth 2024
SL(6)467 – Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Deintyddol) (Cymru) (Diwygio) 2024
Gweithdrefn: Gwneud Negyddol
Mae Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Deintyddol) (Cymru) 2006 (“Rheoliadau 2006”) yn darparu ar gyfer codi ac adennill ffioedd am driniaeth ddeintyddol ac am gyflenwi gwasanaethau deintyddol.
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau 2006 drwy gynyddu’r ffi gymwysadwy sydd i’w thalu am gwrs o driniaeth Band 1, Band 2 a Band 3 ac am gwrs i driniaeth Brys.
Rhiant-Ddeddf: Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006
Fe’u gwnaed ar: 06 Mawrth 2024
Fe’u gosodwyd ar: 08 Mawrth 2024
Yn dod i rym ar: 01 Ebrill 2024
Offerynnau Statudol sydd ag Adroddiadau Clir
18 Mawrth 2024
SL(6)469 – SL(6)469 - Rheoliadau Gofal a Chymorth (Gosod Ffioedd) (Cymru) (Diwygio) 2024
Gweithdrefn: Gwneud Negyddol
Pan fo person mewn gofal preswyl, ac yn cael cymorth ariannol gan ei awdurdod lleol tuag at gost ei ofal, mae'n ofynnol iddo gyfrannu o'i incwm wythnosol tuag at y gost hon.
Fodd bynnag, o dan Reoliadau Gofal a Chymorth (Gosod Ffioedd) 2015 (y Rheoliadau Gosod Ffioedd), rhaid i berson allu cadw swm o'i incwm i'w wario fel y mynna. Gelwir hyn yn 'isafswm incwm'. O dan y Rheoliadau Gosod Ffioedd, yr isafswm incwm ar hyn o bryd yw £39.50 yr wythnos.
Mae lefel yr isafswm incwm yn cael ei hadolygu’n flynyddol i ystyried y codiadau blynyddol i bensiynau gwladwriaeth y DU a thaliadau budd-daliadau lles, sy’n sail i incwm wythnosol preswylwyr cartrefi gofal. Gan ystyried y codiadau hyn, mae’r Rheoliadau’n cynyddu'r isafswm incwm o 8 Ebrill 2024 ymlaen o'i lefel bresennol, sef £39.50 yr wythnos, i £43.90 yr wythnos. Bydd hyn yn caniatáu i breswylwyr gadw swm ychydig yn uwch o'u hincwm i'w wario fel y mynnant.
Rhiant-Ddeddf: Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014
Fe’u gwnaed ar: 07 Mawrth 2024
Fe’u gosodwyd ar: 11 Mawrth 2024
Yn dod i rym ar: 08 Ebrill 2024